Beryl WynHUGHES29ain o Hydref 2022. Yn dawel yn Ysbyty Dolgellau, o Llys Cerdd, Arthog, yn 81 mlwydd oed. Priod annwyl Gwyn, Mam hoff Alwyn a'i briod Tracy, Nain gariadus Bedwyr ac Elain. Cynhelir y Traddodiant yn Amlosgfa Aberystwyth dydd Llun 14eg o Dachwedd am 10 y.b. ac i ddilyn gyda Gwasanaeth o Ddiolchgarwch am ei Bywyd yng Nghapel y Tabernacl, Dolgellau am 1 o'r gloch. Yn lle blodau, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil Canser Cymru trwy law Mr. Gareth Wyn Jones, Diffwys, Ffordd Bodlondeb, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PT. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY. Ffôn: 01341 422 322.
Keep me informed of updates